Cae Post i genhadu ar ran yr ymgyrch RWRP
Mae Cae Post, y fenter gymdeithasol ac elusen amgylcheddol yn Y Trallwng, yn awr yn llysgennad i’r ymgyrch ‘lle i bopeth...’ RWRP [ Right Waste, Right Place], ymgyrch genedlaethol sy’n bwriadu codi’r ymwybyddiaeth o Ddyletswydd Gofal busnesau’r Deyrnas Gyfunol o ran gwastraff. Mae ymchwil diweddar wedi datgelu bod 56% o fusnesau’r DG yn torri’r gyfraith yn hyn o beth.
Mae Cae Post yn cynnig gwasanaethau gwastraff masnachol ac ailgylchu ym Mhowys a Swydd Amwythig. Maent yn ymrwymiedig i hybu ymarfer da, ac yn awyddus bod busnesau’r ardal yn llwyr ymwybodol o’u cyfrifoldebau ynghylch rheolaeth dda o wastraff ac ailgylchu.
Gan mai menter gymdeithasol ydyw, mae gan Cae Post ymrwymiad cadarn i’r amgylchedd, a’i hamcan yw darparu cyflogaeth ystyrlon a phrofiad gwaith i bobl a buasai yn gweld hi’n anodd caffael ar y cyfleodd yma oni bai am hynny.
Mae Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yn falch bod Cae Post yn aelod llawn a dymunwn yn dda iddynt gyda’u gwaith.
|